

CROESO

i Wefan Gwynfor Coaches
"Dwi heb fod ymhobman - ond mae o ar fy rhestr!"
Susan Sontag



CROESO
Wedi’i sefydlu ym 1979, Mae Gwynfor Coaches wedi bod yn gwasanaethu y gymuned leol trwy logi preifat a chytundebau gwasanaeth.
Rydym wedi ein lleoli yng nghanol Ynys Môn, tafliad carreg i ffwrdd o Borthladd Caergybi gyda ein ail safle wedi ei leoli yng Nghaernarfon yn agos i'r Wyddfa a dalgylch Eryri.
BETH RYDYM YN EI GYNNIG
Mae Gwynfor Coaches yn darparu Bysiau Gwasanaeth trwy Ynys Môn, Caernarfon, Llanberis ac Eryri.
(Ewch i’r dudalen amserlen am restr o’n gwasanaethau).
Er nad ydym yn hurio’n breifat mwyach, gallwn roi manylion cwmnïau i chi a fydd yn gallu darparu gwasanaeth rhagorol i chi.
Anfonwch e-bost neu ffoniwch y swyddfa am fanylion
E-bôst:
customerservice@gwynforcoaches.co.uk
Ffôn:
01248 722694
GWYBODAETH
DDEFNYDDIOL
Gwybodaeth ddefnyddiol wrth deithio gyda ni:
-
Caniateir cwn ar y bysiau ar yr amod eu bod yn cael eu cadw ar y llawr (Pris 50c)
-
Gallwch dalu â cherdyn ar unrhyw wasanaeth
-
Gellir prynu pob tocyn ar y bws, gan gynnwys tocyn sengl, dwyffordd, tocyn diwrnod ac 1bws.
-
Mae’r holl fysiau’n cael eu gweithredu gan fysiau llawr isel gyda lle i gadeiriau olwyn a ramp i sicrhau bod yr arosfannau a ddarperir gyda chyrbiau uwch yn cael eu gwasanaethu gan gerbydau hygyrch.